Parc newydd Gwenfrewi

23 Gorffennaf 2022

Ar ddydd Sadwrn, y 23ain o Orffennaf agorwyd y Parc Gwenfrewi yn swyddogol gan y Maer, y cynghorwydd Talat Chaudhri.Mae adnewyddu’r parc wedi ‘i wneud yn bosibl trwy grant mawr gan lywodraeth Cymru.

Mae’r parc yn cynnwys ardal goediog, adran ar gyfer blodau gwyllt, gwelyaullysiau ar gyfer grwpiau cymunedol,yn ogystal â lawntiau a mannau eistedd.

Bydd y parc newydd yn gaffaeliad gwych i bobl Aberystwyth nawr ac am flynyddoedd i ddod.