Parti Cau Gŵyl Trawsnewid! + Dangosiadau Ffilm

17:00, 30 Gorffennaf 2022

5yh-7yh Dangosiad preifat ar benwythnos olaf yr arddangosfa gyda cherddoriaeth a bar.

7yh-9yh dangosiad fideo Trawsnewid a ffilm Pride.

Ymunwch â ni i wylio’r ffilm PRIDE ac am gyfle olaf i fwynhau a dathlu arddangosfa Trawsnewid.
Nod yr arddangosfa yw rhoi llwyfan i ddiwylliant cyfoethog cymunedau LHDTQ+ Cymru, sy’n aml yn cael eu hanghofio. Daeth y syniadau, y cysyniadau a’r gwaith celf i gyd o weithdai dan arweiniad Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru i annog lleisiau newydd i weithio a chydweithio ag ymdrechion archifol a threftadaeth yn yr Amgueddfa.

Project gan Amgueddfa Cymru ar gyfer pobl ifanc LHDTQ+ rhwng 16-25 oed yw Trawsnewid. Mae’r project yn digwydd ar-lein ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae’n edrych ar hanes queer Cymru, a phrofiadau pobl LHDTQ+ sy’n byw yng Nghymru heddiw trwy gyfrwng sgyrsiau a gweithdai.

Llefydd cyfyngedig, archebwch eich tocyn am ddim drwy ein gwefan.