Penwythnos Gerdded Llandysul a Phont-Tyweli

23 Medi 2022 – 25 Medi 2022

£4

Mae grwp Croeso i Gerddwyr Llandysul a Phont-Tyweli yn cynnal Penwythnos Gerdded o Nos Wener 23ain o Fedi i Dydd Sul 25ain. Mae 7 teithiau gerdded dros y penwythnos. Ewch i’r wefan am fanylion llawn.

Nos Wener 23ain Medi 

Taith 1: Taith gerdded hanesyddol o amgylch Llandysul gyda Chymdeithas Hanes Llandysul.
5.45yp.   Cwrdd ym maes parcio Llandysul. Weddol Hawdd.  Dysgwch ychydig o hanes Llandysul . Rhai rhiwiau  ond digon o arosfannau i ddal eich gwynt. Gorffen yng Ngwesty’r Porth lle gallwn fwynhau lluniaeth a swper (fe’ch cynghorir i archebu lle). Tua 1.5 awr. Eithaf Hawdd. Cysylltwch â Jane Kerr 01559 363201 neu Lesley Parker 07989 127396. 

Dydd Sadwrn 24ain Medi

 Taith 2: O Benboyr i Bontweli ar draws Llangeler ac afon Teifi.  8 Milltir.  Weddol hawdd / Cymedrol.
9.30am Cyfarfod ym maes parcio Llandysul (SA44 4QS neu ///cenhedloedd.neges.nifer) i gael cludiant bws mini i’r man cychwyn. Dim cŵn ar y bws.
Neu 10yb yn Eglwys St Llawddog, Penboyr (SA44 5JE neu ///swil.tacl.ymgeisydd), os oes ci yn cerdded hefyd. Trefnwch gludiant preifat yn ôl i’ch car gan mai taith gerdded unionlin yw hon.  Cerdded hawdd dan draed, ond rhai rhiwiau i fyny ac i lawr. Sawl cae glaswelltog, rhai llwybrau hardd drwy coetir troellog, a rhai lonydd cefn.  Esgidiau cyfforddus cadarn, tywel rhag ofn padlo drwy’r afon Teifi. Dewch â chinio picnic. 
Arhosiad yn The Half Moon am beint cyn dychwelyd i faes parcio Llandysul os dymunir. 
Cysylltwch â Rob Smith a Lisa Bransden 01559 362143.

Taith 3: Pontsian i Bwlch-y-fadfa.  Cylchdaith o tua 6.5 milltir. Cymedrol.
10yb cyfarfod ym maes parcio Neuadd D H Evans Pontsian, SA44 4UL (///paratoadau.ffefrynnau.allbwn)  
Peth dringo fan hyn, fan draw ac hefyd peth tir gwlyb. Cymhedrol ar y cyfan. Dewch â diod a bwyd achos byddwn yn cael picinic ar y ffordd.  Cyswllt: Eileen Curry 01559 362253.

Taith 4: Taith Pencoed y Foel, 5 milltir. Hawdd / cymedrol.
10yb Cyfarfod ym maes parcio Llandysul.  Cylchdaith i gopa Pencoed y Foel a saif o fewn y Lloc Oes Haearn. Golygfeydd godidog o Llandysul. Sori dim cwn gan ein bod yn croesi tir fferm preifat gyda da byw.  Cyswllt: Tom Cowcher 01559 363200.

7yh Bingo & BBQ
yn Y Porth, Stryd yr Eglwys, Llandysul, SA44 4QS.  Ymunwch â ni am noson gymdeithasol hwyliog yn Y Porth. Mae croeso i bawb.

Dydd Sul 25ain Medi

Taith 5: Taith Pwmpen Plant.  Taith fyr Hydref i plant ac oedolion, efo pwmpenni a dail lliwgar. Cwrdd yn “Clwt Pwmpen” Y Porth am 10yb.  Archeb yn hanfodol. Rhaid fod rhiant yn ymuno â plentyn. Croeso i cŵn ar tennyn.  Am fwy o manylion cysyllwch â Rhodri ar 01559 362202.

Taith 6: Taith Horeb. 9 Milltir. Cymedrol. 10yb. Cyfarfod ym maes parcio Llandysul i gael cludiant bws mini i’r man cychwyn. Cerdded llwybrau o Gilfach Chwith gan groesi Nant Iago tua Cwmtywarch, yna ymlaen am Allt Cwmhyar cyn disgyn am Cnwc Tysul a cherdded y rhewl yn ôl o Gorrig i Llandysul.  Dim cŵn.   Ron a Megan Foulkes  01559 362736

Taith 7: Taith Dre-fach Felindre.  6  Milltir. Cymedrol. 
Cyfarfod yn Neuadd y Ddraig Goch, Dre-fach Felindre, SA44 5UG (///tiwb.paradwys.anghredadwy).  Bydd hon yn daith gerdded tua 6 milltir drwy bentrefi Felindre, Drefelin, Penboyr a Chwmpengraig  yn bennaf oddi ar y ffordd ar lwybrau troed llai eu defnydd ac o anhawster cymedrol gyda rhai traciau garw a dringfeydd serth. Mae croeso i gŵn ond mae angen iddynt fod dennyn ac mae un gamfa garreg a allai fod yn broblem i rai cŵn.  Dewch â byrbryd a diod.  Cysylltwch â Wendy & Reg Leftley 01559 370175.

Gwybodaeth

  • Mae’r teithiau cerdded yn costio £4 y person am bob taith sydd wedi archebu ymlaen llaw neu £5 ar y diwrnod. Ni
    chodir tâl ar gyfer plant dan 16. Mae pris y teithiau cerdded yn cwmpasu pob gweinyddiaeth a chludiant yn ôl yr angen.
  • Y dyddiad cau ar gyfer archebion yw Dydd Llun, Medi 19eg.