Plygain 4a6

19:00, 22 Rhagfyr 2022

Talu be fedrwch

Da ni nol!

Mae hi wedi bod yn gyfnod prysur a llawn newidiadau ym mywydau criw 4a6 ers 2020 a oedd yn golygu nad oedd hi’n bosib i ni drefnu gigs yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. A diolch fod trefnwyr gigs eraill yn cadw’r calendr yn brysur. OND mae nosweithiau 4a6 YN ÔL

Plygain 4a6

Da ni’n cloi’r flwyddyn yma gyda sing-song blygeiniol efo Gwil, Geth ac Elidir yn Lle Arall, nos Iau YMA, Rhagfyr 22. Byddwn ni hefyd yn hoff o wybod sut fath o ddigwyddiadau hoffech chi weld gan 4a6 yn y dyfodol. O, deuwch ffyddloniaid 4a6!

Gig Bwncath Mawrth 2020

Yn anffodus nid oedd modd i ni aildrefnu’r digwyddiad. Da ni’n gwybod bod amser maith wedi bod ers hynny, ond os yda chi wedi cadw gafael ar eich tocyn, gallwch chi gael eich arian yn ôl o Palas Print, neu yn yn y noson Blygain. Fel arall, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i drefnu digwyddiadau yn ystod 2023.