SANTA YN LLANDDEWI BREFI

17:30, 13 Rhagfyr 2022

5.30 – Cwrdd â Santa ar bwys Hyfrydle yn Llanddewi Brefi. Byddwn ni’n dilyn Santa ar ei daith o gwmpas y pentref ac yn sefyll wrth y goeden ar y sgwâr i ganu carolau. 

6.00 – Erbyn 6, byddwn ni wedi cyrraedd Neuadd y pentref er mwyn mynd i weld Siôn Corn yn y groto, gwrando ar Fois y Rhedyn yn canu, yfed gwin cynnes a bwyta mins peis.

Dewch i joio hwyl yr ŵyl.