Seminar Ymchwil Dr Itxaso Rodríguez-Ordóñez

16:00, 8 Chwefror 2022

Caffael ergatifedd yn y Fasgeg a’i ystyr cymdeithasol: y goblygiadau i amrywio sosioieithyddol – Dr Itxaso Rodríguez-Ordóñez

Yn dilyn dulliau amrywio ieithyddol ym maes caffael iaith, mae’r astudiaeth hon yn edrych ar y ffordd y mae siaradwyr newydd y Fasgeg yn caffael nodwr -k yr ergatif. Dengys y data a gynhyrchwyd fod siaradwyr newydd, er eu bod yn amrywio’n fwy, yn dangos meistrolaeth gyson o ran rheolau mewnol craidd a strwythuro graddol yn seiliedig ar effeithiau amlder geiriau. Nid yw siaradwyr newydd yn dangos unrhyw wahaniaethau o ran yr ystyron cymdeithasol sy’n gysylltiedig ag ergatifedd – mae hyn yn groes i siaradwyr traddodiadol sy’n cysylltu hepgor -k â ‘siaradwyr newydd’ a ‘pheidio â bod yn awthentig’. Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod amrywio strwythuredig yn cael ei gaffael mewn modd tameidiog, a bod siaradwyr newydd yn gysylltiedig â thorri rheolau sawl math o berthynas gymdeithasol-fynegeiol a thraddodiadol o ran amrywio ieithyddol.

Traddodir y seminar yn Saesneg ar Zoom. Cysylltwch â cymraeg@caerdydd.ac.uk am fwy o fanylion!

Acquiring Basque ergativity and its social meaning: implications for variationist sociolinguistics

Following variationist approaches to language acquisition, this study examines the acquisition of the Basque ergative case marker -k among new speakers of Basque. Production data indicate that new speakers despite being more variable, they show consistent mastery of core internal constraints and gradual structuring based on lexical frequency effects. New speakers show no differences in the social meanings attached to ergativity, contra traditional speakers who associate –k omission with ‘new speakers’ and ‘inauthenticity’. This study shows that structured variation is acquired in a piecemeal fashion and that new speakers are implicated in transgressing traditional socio-indexical relations of linguistic variation.

This seminar will be held via Zoom in English. Contact cymraeg@cardiff.ac.uk for more information!