Sesiwn Sefydlu Gwefan Fro Dyffryn Aeron

13 Gorffennaf 2022

 ❗ SEFYDLU GWEFAN FRO DYFFRYN AERON ❗

Mae cyfle wedi codi i Ddyffryn Aeron ymuno â rhwydwaith gwefannau Bro360. Daeth cynrychiolwyr lot o fudiadau Aberaeron a Dyffryn Aeron ynghyd ddechrau’r flwyddyn i ddweud “ie plîs!” pan holwyd a oedd diddordeb cael gwefan straeon lleol i’r ardal. Felly mae’n bryd bwrw ati!

Dyma estyn gwahoddiad arbennig i bawb sydd â diddordeb, ynghyd a chynrychiolwyr pob mudiad yn y Dyffryn i ymuno â ni Nos Fercher, 13 Gorffennaf am 7:30yh yn Nhafarn y Vale er mwyn sefydlu’r wefan.

Fydd hi’n noson hwylus – cyfle i benderfynu ar enw a phethau cyffrous fel hyn!

Felly dewch â’ch hunan a’ch syniadau ac fe welwn ni chi ‘na!