Twm Siôn Cati

Am Ddim

Pan fo’r nos yn hir a’r gwynt yn rhuo, a’r coed yn plygu a’u dail yn chwyrlïo ar hyd ambell i lôn diarffordd yng Nghymru, os wnewch chi wrando yn ddigon astud mae sŵn adlais carnau ceffyl i’w clywed….sŵn y lleidr pen ffordd enwog Twm Siôn Cati.

Yn y cynhyrchiad llwyddiannus hwn mae cyfle i chi brofi bywyd Twm yn fyw ar lwyfan trwy storïa, canu ac ymladd. Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Dregaron yn yr haf, pa well amser i glywed hanes un o gymeriadau mwyaf eiconig yr ardal! Cewch fynd ar daith gyffrous yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg i briffyrdd llawn lladron a pheryglon pan oedd Twm yn ymladd anghyfiawnder gyda triciau doniol a champau drygionus.

Dewch i ddathlu bywyd yr arwr gwerinol llawn sbort yma gydag awr o theatr hwyliog gan un o gwmnïau theatr fwyaf blaenllaw Cymru. Ymunwch â ni  ar y daith!