The Pye Story – hanes un o gwmnïau technoleg eiconig Caergrawnt

19:00, 27 Mai 2022

Am ddim

Sgwrs yn Saesneg gan Bob Bates

Gellir ystyried Pye fel un o sefydlwyr Ffenomen Caergrawnt. Dyma hanes tyfiant Pye o’i gychwyn mewn sied ardd yng Nghaergrawnt yn 1896, nes iddo ddod yn un o brif gwmnïau technoleg y DU. Ar ei anterth yn 1966 roedd gyda fe fwy na 70 o gwmnïau yn y DU, 15 o gwmnïau dramor, a roedd yn cyflogi 30,000 o staff yn fyd-eang gan gynnwys 7,000 o weithwyr yn ardal Caergrawnt. Bydd yr hanes yn disgrifio rhai o’r bobl allweddol a yrrodd y cwmni, ac yn rhoi trosolwg o’r technolegau a chynhyrchion arloesol a gynhyrchwyd gan y cwmni. Ac yn olaf, disgrifir cwymp y cwmni a sut cafodd ei gymryd drosodd.

Cofrestrwch ar wefan Cwmulus: