STRAEON TYMHOROL I OEDOLION

19:30, 11 Rhagfyr 2022

£10

Trwy nosweithiau’r Gaeaf byddai ein cyndeidiau wedi ymgynnull o amgylch tanau i gadw’n gynnes ac adrodd straeon yn y nos.

Cyn y rhyngrwyd, cyn y teledu, cyn panto… Roedd adrodd straeon yn cynhesu calonnau pobl yn nyfnder y misoedd tywyll.

Ymunwch â phedwar storïwr lleol o fri ar gyfer Straeon Tymhorol ar ddydd Sul 11eg Rhagfyr yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Dewch i glywed straeon i danio’r golau y tu mewn a fydd yn ein tywys trwy’r Gaeaf tywyll hwn.

16+