Taith Gerdded: Tanrallt a Chaer Engan

10:30, 29 Ionawr 2022

Ymunwch â ni ar ein taith gerdded nesaf yng nghwmni Dr Ffion Eluned Owen.

Taith yn cychwyn ym maes parcio’r Ganolfan yn Nhalysarn, gan ddringo am Danrallt a Chwarel Fronheulog cyn dod yn ôl drwy Lôn Ddŵr a Chaer Engan.

Dewch i ddysgu mwy am bentref hynod Tanrallt, am hanes chwareli ochr ddeuheuol y Dyffryn ac i weld y fryngaer Geltaidd ger Llanllyfni sy’n perthyn i Oes yr Haearn.

Rhybudd: Fe all y tir fod yn fwdlyd mewn mannau felly cofiwch wisgo esgidiau addas.

Manylion Pwysig:

  • Cychwyn am 10.30yb o Ganolfan Talysarn
  • Byddwn yn anelu i gyrraedd yn ôl erbyn tua 1yp
  • Angen esgidiau addas a fflasg
  • Angen cofrestru: anfonwch e-bost at post@yrorsaf.cymru

Taith wedi ei threfnu gan Yr Orsaf.