Taith Tractor Nadoligaidd

10:00, 18 Rhagfyr 2022

Rydym yn cynnal taith dractorau nadoligaidd er mwyn codi arian tuag at Gronfa Apêl Sioe’r Cardis 2024.

Byddwn yn cofrestru o 10yb gyda’r tractor cyntaf yn gadael am 11yb.

Gwisgwch yn Nadoligaidd a chroeso i chi addurno eich tractor yn hwyl yr ŵyl!

Bydd diod, lluniaeth ysgafn a thocyn raffl yn rhan o’r pris.

Os bod gennych unrhyw ymholiadau, croeso i chi gysylltu â ni, Emyr Jones 01570 480424 neu Peter Davies 01570 480853.

Welwn ni chi ’na!