Thomas Edison – the man who nearly invented radio

19:00, 22 Gorffennaf 2022

Am ddim

Sgwrs ar-lein yn Saesneg gan David Crawford

Testun y sgwrs hon yw Thomas Edison, dyn busnes a dyfeisiwr, sy’n gofiadwy am y ffonograff, golau trydan, cynhyrchiad trydan, a llwyth o ddyfeisiadau eraill. Byddwn ni’n edrych ar ddigwyddiadau 1875 pan gyhoeddodd Edison ddarganfod yr “Etheric Force” oedd yn gallu, honnodd ef, caniatáu cyfathrebu heb wifrau. Croesawyd y datganiad ar y pryd gyda gwatwar gan y gymuned wyddonol, fu bron chwalu ei yrfa.

Yn hwyrach, wrth gwrs, mae radio wedi chwarae rhan enfawr yn ein bywydau; ond eraill gafodd y clod.

Curadur amgueddfa Gwefr Heb Wifrau yn Ninbych yw David Crawford. Mae e’n beiriannydd fu’n gweithio am flynyddoedd ym maes darlledu, i’r BBC a chwmnïau eraill.

Cliciwch islaw er mwyn cofrestru: