Rydym yn gyffrous iawn fod y sioe ‘West’ yn dod i Theatr Felinfach ar Nos Wener, 27ain o Fai am 7:30yh wrth iddynt deithio eto cyn dychwelyd i America i Ŵyl Hollywood yn LA.
Mae ‘West’ yn sioe am fywyd gwr a gwraig sy’n neud y penderfyniad anodd i adael Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg i ddechrau bywyd newydd yn America. Ni’n dilyn y ddau ac yn gweld y profiadau anodd a’r cyfnodau cyffroes trwy eu llygaid nhw. Mae’r ddrama yn trin themâu megis cariad, cartref, hiraeth a mewnfudo.
Mae’r ddrama wedi ei ysgrifennu mewn ffordd farddonol iawn gan Owen Thomas, awdur sioeau ‘Grav’, ‘Carwyn’ a ‘The Wood’ ac mae’r actorion yn defnyddio steil corfforol i ddod a’r ddrama yn fyw gyda help ychydig set a phropiau minimalistig.
Cyfarwyddwyd gan Gareth John Bale yr actor a chyfarwyddwr sy’n adnabyddus o’i berfformiadau yn ‘Grav’ sydd wedi bod yma gyda ni yn Theatr Felinfach yn 2015 a 2019 a ‘Nye a Jennie’ ac yn perfformio ar y cyd â Gwenllian Higginson sy’n gyfarwydd i gynulleidfaoedd theatrau Cymreig o’i pherfformiadau yn ‘Gwlad yr Asyn’, ‘Miss Julie’ a ‘Merched Caerdydd.’
Mi fydd y sioe yma trwy gyfrwng y Saesneg ac mi fydd hefyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y perfformiad.
Oriau’r Swyddfa Docynnau:
Llun i Gwener
9:30yb-16:30yp
01570 470697
Gallwch hefyd adael neges gyda’ch enw a’ch rhif ffôn ar ein peiriant ateb, neu anfonwch e-bost at theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk