Tad y Wladva: Daucanmlwyddiant Michael D. Jones

19:00, 28 Mai 2022

Ar ddyddiad hwylio’r fintai gyntaf o ymfudwyr i Batagonia yn 1865 ac i nodi daucanmlwyddiant geni Michael Daniel Jones, bydd Dr Dafydd Tudur yn ein cyflwyno i’r person sydd wedi’i gysylltu fwyaf â’r bennod ryfeddol a dadleuol hon yn hanes Cymru a’r Ariannin.

Bydd Dafydd yn mynd â ni ar daith i dri chyfandir, gan amlinellu’r trafodaethau, y gweithgareddau a’r digwyddiadau a arweiniodd at sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Wrth wneud hynny, bydd yn trafod rôl a chyfraniad Michael D. Jones i’r fenter, ei weledigaeth a’i obeithion ar gyfer y Wladfa, a’i safbwyntiau ar hunaniaeth, imperialaeth a choloneiddio.

Mae’r digwyddiad teirieithog hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chymdeithas Cymru-Ariannin.

**Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd i Saesneg a Sbaeneg**