Wythnos Addysg Oedolion: Bywyd ym Myddin Rhufain

13:00, 21 Hydref 2022

Am ddim

Bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl roedd Caer Isca (Caerllion) yn lleoliad pwysig ar ffin gogledd orllewin Ymerodraeth Rhufain. 

Beth am alw draw i gyfarfod un o filwyr yr Ail Leng Awgwstaidd? 

Byddan nhw’n dangos eu lifrau, eu harfau a’u hoffer milwrol ac yn disgrifio bywyd bob dydd milwr Rhufeinig ar gyrion yr Ymerodraeth. 

Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal yn ddwyieithog.