Trwsiwch eich het, smwddiwch eich siôl. Ry’ ni am gael parti.
Mae sêr y llwyfan a’r sgrin, Cwm Rag, yn dod adre. Mae’r criw o berfformwyr drag LHDTC o Gymru yn adnabyddus am eu sioeau cabaret anarchaidd a chwareus. A hwythau wedi treulio’r ddegawd ddiwethaf yn byw ym mherfeddion gwlyb Llundain fawr, maen nhw wedi arbed digon o arian o’r diwedd i deithio dros bont Hafren.
Mae Cwm Rag yn dathlu ac yn archwilio beth ydi bod yn Cwiar ac o Gymru. Maent yn edrych yn ddwfn i hanes a diwylliant Cymru gyda winc a gwên. Disgwyliwch delynau a thethi.
Dewch i fwynhau comedi, cerddoriaeth a bwrlesg, a chymerwch olwg o’r newydd ar ddiwylliant poblogaidd a chyfoethog Cymru: Derwyddon, Shirley Bassey, cennin, Catatonia, cyfeiriadau at bwystfileidd-dra, dillad isaf Tom Jones, cennin pedr a Charlotte Church – byddwn ni’n trafod y cyfan, butt.