Arddangosfa gelf ‘Aildanio’ yn dwad i Galeri, Caernarfon!

3 Mawrth 2023 – 8 Ebrill 2023

Mae’r arddangosfa, a ariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys 26 o weithiau celf gan artistiaid anabl wedi’i lleoli yng Nghymru, dewisir o dros 100 o gyflwyniadau i ymatebion creadigol i foment ‘aildanio’. Yn dechrau yng Nghaerdydd yn g39, bydd yr arddangosfa yn teithio ar draws Cymru rhwng Tachwedd 2022 a Medi 2023. Dyma gyfle arbennig i brofi gwaith celf weledol flaengar a phryfoclyd gan rai o artistiaid gorau Cymru.

Mae CAC, sefydliad cenedlaethol celfyddydau anabledd yn dathlu 40 mlynedd o hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl a Byddar yn y celfyddydau ac yn falch i ddechrau’r daith ‘Aildanio’ yn g39, sefydliad sy’n cael ei redeg gan artistiaid a gofod cymunedol creadigol yng Nghaerdydd.

Dewch yn llu i fwynhau celf arloesol, cefnogi cydraddoldeb, ac i ddathlu amrywiaeth!