
Ar ôl holi ‘Pwy oedd Idwal Jones’ echnos, Euros Lewis fydd yn mynd yn ei flaen i ofyn ai i Ddiwylliant neu i Culture y mae theatr y Cymry yn perthyn bellach.
Dyma’r ail yng nghyfres Dalithoedd Marie James – Yr Ŵyl Ddrama 2023. Yn ei dilyn byddwn yn gosod her i bedwar perfformiwr greu eu darn uchelgeisiol eu hunain o theatr, a hynny dros nos – yn y Theatr Unnos!