
Beth os fyddech chi’n pellhau o’r bobl rydych chi’n eu caru?
Sut allan nhw ddod â chi’n ôl?
Mae Y Bont yn opera un act newydd gan Edward Wright a Marian Bryfdir sy’n edrych ar fyw gyda dementia a’r effaith maen ei gael ar yr unigolyn a’r bobl o’u cwmpas: yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, a’r pethau annhebygol sy’n digwydd yn y canol.
Mae Y Bont/The Bridge yn gydweithrediad rhwng tîm creadigol profiadol ac IDEAL, rhaglen ymchwil dementia sydd wedi hen ennill ei phlwyf. Mae ymchwil a phrofiad go iawn yn cwrdd yn y prosiect hwn a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y mae pobl gyda dementia a gofalwyr yn cyfrannu ato.
“Dod o hyd i’r llawenydd”— wrth i ddyn gael i wthio i dywyllwch nad yw’n gallu ei reoli, mae ei anwyliaid yn dysgu creu eiliadau o gariad, dealltwriaeth, hunan-werth a hyd yn oed hiwmor i’w helpu i groesi’r bont rhwng realiti a’i feddwl ei hun. Mae’n archwilio’r ystod o emosiynau a brofwyd ar y daith dementia, wrth i unigolyn symud o ddiagnosis cynnar i therapïau amgen, gan wynebu cyfathrebu cymysg gan aelodau o’r teulu a gweithwyr proffesiynol ar yr un pryd. Y bariton o Gymru, Kiefer Jones, sy’n chwarae’r brif ran.
Mae’r perfformiad hwn yn Gymraeg.
45 munud
Ar ôl y perfformiad, bydd sesiwn Holi ac Ateb gyda’r tîm creadigol ac ymchwil ar gyfer y rheini a fyddai’n hoffi aros. Nid yw pob cyflwynydd yn siarad Cymraeg, felly bydd rhywfaint o gyfieithu.
Cynhelir gweithdy cymunedol rhad ac am ddim hefyd sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad hwn ac yn cael ei gynnal am 4pm cyn yr opera.
pontio.co.uk