Branwen: Dadeni

8 Tachwedd 2023 – 11 Tachwedd 2023

£20

Teyrnas ar chwâl. Brenhiniaeth lwgr. Cenhedlaeth newydd yn ysu am newid.

Sioe gerdd epig Gymraeg yw Branwen: Dadeni sy’n dod ag un o’n chwedlau mwyaf adnabyddus i mewn i’r byd cyfoes. 

Ar ôl rhyfel cartref gwaedlyd, teulu Llŷr sy’n rheoli gwlad Cedyrn. Mae Branwen, y dywysoges ifanc garismatig sydd wedi ennill calonnau’r bobl, yn awyddus i symud ei gwlad ymlaen, ond dyw ei brawd, y brenin, ddim yn gwrando.

Yn ystod ymweliad annisgwyl gan Frenin Iwerddon, mae hi’n gweld ei chyfle: dianc i wlad flaengar a llewyrchus lle bydd ei llais yn cyfrif, a lle bydd ganddi’r grym i newid pethau. Ond, wrth iddi ddechrau serennu, mae pob bargen, brad a chorff yn ei harwain yn ddyfnach i’r tywyllwch, a phan fydd bron ar ben arni, daw’r pris yn amlwg.

Beth fyddech chi’n ei aberthu i greu byd cyfiawn?

Sioe gerdd newydd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen sy’n ailddychmygu’r stori eiconig, gyda Gethin Evans yn cyfarwyddo cast rhagorol o berfformwyr a cherddorion.