Comedy Translates – Noson gomedi ddwyieithog. Mewn ffordd!

20:30, 30 Mawrth 2023

£15

A ydych chi erioed wedi ystyried sut beth fyddai comedi stand-yp mewn iaith arall? Wel dyma’ch cyfle i ddarganfod. Mewn ffordd.

Cychwynnodd hyn fel syniad syml. Tra byddai’r digrifwyr yn perfformio yn Gymraeg, byddai’r gynulleidfa yn clywed cyfieithiad Saesneg. Yn fyw! Ond, roedd ambell i nam technegol, a gan fod y digrifwyr wedi pechu bob cyfieithydd yn y wlad, erbyn hyn mae’r cyfieithu’n cael ei wneud gan…. y digrifwyr eu hunain.

Mae’r sioe anarchaidd ac anrhagweladwy wedi gwerthu bob tocyn yng ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth ers ei lansio yn 2017. Byddwch yn chwerthin ar hyd y sioe – ac yn siŵr o ddysgu cryn dipyn am y Gymraeg a diwylliant Cymru ar hyd y ffordd.

Yn serennu’r cyfieithydd sydd bellach yn ddigrifwr, Steffan Alun, a leinyp o oreuon y sin Gomedi Gymraeg.