
Cwmni Frân Wen yn cyflwyno
Croendena
Mae Nel yn 17 oed ac yn darganfod dihangfa yn y pyb ar ben yr allt sy’n llawn fflyrtio, rhagfarnau a lloriau sdici. Dyma stori ddigri a thorcalonnus am fywyd merch ifanc sy’n trio ffeindio’i thraed ynghanol unigrwydd gwledig.
Croendena yw cynhyrchiad diweddaraf y dramodydd ifanc Mared Llywelyn sy’n un o leisiau mwya’ cyffrous theatr Cymru.
Yn gomisiwn gan Frân Wen, mae’r fonoddrama yn cael ei chyfarwyddo gan Rhian Blythe.
Canllaw oed 14+
Oriau’r Swyddfa Docynnau
Llun i Gwener
9:30- 16:30
01570 470697