Cymhorthfa yn Hirael

10 Chwefror 2023

Am ddim

Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli etholaeth Arfon, sy’n cynnwys Bangor, yn y Senedd. Er bod cymhorthfa nesaf Siân yn cael ei chynnal yn ardal Hirael, mae gwahoddiad i drigolion o bob rhan o’r ddinas dodd i gwrdd â hi.

 

Gwahoddir trigolion lleol i ddod i drafod materion sy’n berthnasol i Senedd Cymru, gan gynnwys iechydtaiaddysg, a’r amgylchedd.

 

Dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu’r gymhorthfa gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at sian.gwenllian@senedd.cymru neu drwy ffonio 01286 672076.