Cyngerdd Blygain Anffurfiol

18:30, 30 Ionawr 2023

Cynhelir cyngerdd anffurfiol yn naws y blygain yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod ar nos Lun 30 Ionawr am 6.30. Dewch ynghŷd i ganu carolau plygain boed yn unigolion neu grwpiau bach neu dewch i wrando ar yr arlwy. Edrychwn ymlaen at noson anffurfiol ac ymlaciedig o ganu gan unigolion a grwpiau lleol. Bydd tê ar y diwedd i bawb.

Croeso i bawb!