Ymunwch â ni yng Ngwarchodfa Natur Leol Morfa Madryn am ddiwrnod llawn o weithgareddau cyffrous i’r teulu cyfan.
Gweithgareddau yn cynnwys:
– Llwybr ‘Pob wy yn cyfri’ efo gwobrau wyau siocled!
– ‘Cyfarfod y gwartheg’ – dysgwch am y gwaith pwysig maent yn ei wneud ar y warchodfa.
– ‘Helfa Madarch’ & ‘Saffari Gwyfynod’ gydag arbenigwr lleol.
– Gweithdy ‘ditectif pŵ’.
– Adeiladu blychau adar, Clwb Crefftau Natur, & sesiynau Darganfod Natur.
Lleolir Gwarchodfa Natur Leol Morfa Madryn 1 filltir i’r gorllewin o Lanfairfechan. Dylid parcio ar y Promenâd yn Llanfairfechan (A55, Cyffordd
15). I gyrraedd y digwyddiad, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru tua’r gorllewin
o’r maes parcio. Ni fydd mynediad i’r safle oddi ar yr A55 ar y diwrnod.
(Bydd toiledau yn cael eu darparu yn y warchodfa ar gyfer y digwyddiad. Byddwch yn ymwybodol bod Morfa Madryn yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer adar sy’n nythu ar y lawr – sicrhewch fod pob ci
yn cael eu cadw o dan reolaeth)
Cyswllt: bioamrywiaeth@gwynedd.llyw.cymru / 01766 771 000