Eisiau gwefan fro i’ch ardal chi? – Sgwrs Cymru gyfan, i ddarganfod mwy am Bro360

18:00, 9 Mawrth 2023

Gyda’r 10fed gwefan fro newydd fynd yn fyw, a gyda phob bro yn Arfon a Cheredigion yn berchen ar eu gwasanaeth straeon lleol eu hunain er byn diwedd y gwanwyn, mae Bro360 yn awyddus i gynnig y cyfle i ardaloedd eraill ymuno.

Gwefannau straeon lleol Cymraeg yw’r gwefannau bro – yn llawn erthyglau, fideos, blogiau byw ac ati gan bobol leol, i bobol leol.

Os hoffech chi:

– glywed mwy am beth yw gwefannau bro a sut gallant fod o fudd i’ch gymuned chi 

– gweld sut mae cymunedau eraill wedi elwa o gael lle ar y we i’w mudiadau, busnesau a digwyddiadau

– dechrau ystyried y posibilrwydd o sefydlu gwasanaeth digidol Cymraeg ochr yn ochr â’ch papur bro…

Cofrestrwch i ymuno â’r sgwrs zoom ar 9 Mawrth.

Sesiwn wybodaeth yw hon, sy’n agored i bawb yng Nghymru. Nid yw ymuno yn y sgwrs yn ymrwymiad i fwrw ati i greu gwefan fro yn y pen draw.