Frân Wen a Theatr y Sherman: IMRIE

19:30, 7 Mehefin 2023 – 19:30, 8 Mehefin 2023

£15 / £13

Dyma’r parti sy’n newid ei byd am byth. Mae Josie yn darganfod parti hudolus o dan y dŵr sy’n well nag unrhyw barti dynol erioed. Mae’n fyd lle mae’n darganfod ei gwir hunan – ac Imrie Sallow.

Uwchben y dŵr, mae hi ar goll mewn byd lle nad yw’n perthyn, â chwaer sydd eisiau iddi fod yn ‘hapus a normal’. Ond yng nghysgodion y byd arallfydol daw cyfrinach teuluol i’r wyneb sy’n newid popeth.

Wedi ei ysgrifennu gan Nia Morais (Crafangau / Claws, A Midsummer Night’s Dream gan Theatr y Sherman), mae Imrie yn stori i oedolion ifanc am obaith a dewrder.

Cyfarwyddwyd gan Gethin Evans (Woof, Ynys Alys, Galwad).

Sioe yn yr iaith Gymraeg