Geiriau Diflanedig: colli ac ennill y gêm Cyfieithu

14:00, 22 Ebrill 2023

Yn y ddarlith hon, bydd yr Athro Mererid Hopwood yn mynd ar drywydd y profiad o gynnwys ac o hepgor wrth gyfieithu cerddi. Pwy sy’n colli? Pwy sy’n ennill? A phwy sy’n cadw’r sgôr?
Digwyddiad ar y cyd gyda Chyfeillion y Llyfrgell.
Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd.