Law yn llaw â’r Theatr Unnos, mae’r Ŵyl Ddrama yn cynnal gweithdy dyfeisio a byrfyfyrio ar gyfer pobol ifanc 14 – 25 oed… ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim!
Cewch eich hysbrydoli o’r posibiliadau o ddyfeisio a chreu mewn cyfnod byr.
10:15 – Cyfarfod yn y Theatr am baned a chlonc.
10:30 – Gwylio cynnyrch y Theatr Unnos fel sail i’r gweithdy.
11:00 – Gweithdy dyfeisio a byrfyfyrio yn adlewyrchu’r Theatr Unnos.
Bydd angen cadw lle o flaen llaw, trwy gysylltu â Carys yn Theatr Felinfach ar 01570 470697 / theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk
Diolch i Gyngor Sir Ceredigion am y gefnogaeth, trwy’r gronfa grantiau bach.