Gŵyl Beaumaris Festival

24 Mai 2023 – 31 Mai 2023

Mae Gŵyl Biwmares yn ôl! Bydd rhaglen yr 38ain ŵyl yn llawn digwyddiadau gwych yn amrywio o Jazz i Gomedi i Gerddoriaeth Clasurol.

Jazz yn y ‘Bulkeley Ballroom’ gyda Remi Harris a Tom Moore sy’n agor yr Ŵyl eleni. I’r rhai sydd yn mwynhau Jazz, cadwch lygad allan ar gyfer ymddangosiad cyntaf y Benoit Viellefon Hot Club yn Beaumaris – grwp sydd wedi hen arfer chwarae yn Ronnie Scott’s Llundain!

Os ydych yn hoff o gerddoriaeth glasurol, bydd digon i ddewis ohono yn rhaglen eleni hefyd. O noson o glasuron operatig gyda mezzo-soprano, Maggie Cooper a bariton, Jeremy Huw Williams, datganiadau unigol ar y Piano, Recorder ac Accordion i Gyngerdd Cerddorfaol Mawreddog gyda gweithiau gan Mozart, Finzi, Debussy a Haydn yng nghwmni Y Gerddorfa Siambr Gymreig.

Yn cael ei hadnabod fel gwlad y gân, mae Cymru yn gartref i lawer o fandiau pres a chorau o safon fyd-eang. Rydym yn falch iawn o groesawu’r band arobryn Seindorf Biwmares a’r côr lleol poblogaidd Cantorion Menai i’r ŵyl eleni hefyd.

Yn ogystal â cherddoriaeth, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys arddangosfa gelf gan artist yr ŵyl, Gilly Thomas, yn cael ei agor gan y Maer, Cyng. David Evans, a noson o Gomedi gydag enillydd Enillydd Gwobrau Comedi Prydain, seren y West End a perfformiwr yn y Sioe Amrywiaeth Frenhinol, Mike Doyle.

Ewch draw i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau gwych sy’n dod i Beaumaris eleni!