Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 7 Ebrill 2023 – 15:00, 10 Ebrill 2023

£4 yr helfa

Datryswch y posau yn ein Helfa Basg er mwyn hawlio eich siocled blasus! 

Dewch i drio’n crefftau ciwt a thrawsnewid yn dditectif pedair coes, cyn mynd ar drywydd y cwningod chwareus sy’n cuddio o gwmpas yr Amgueddfa. 

Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!  

1. Cofia gyfri…Mae gan bob un o’r cwningod cudd fasged o wyau. Sawl wy sydd yn eu basgedi? Ysgrifenwch y rhif yn yr wy gwag ar y daflen.

2. Gweld y Gwahaniaeth… defnyddiwch eich llygaid craff i weld y gwahaniaeth rhwng gwahanol gwningod yr Amgueddfa. 

3. Yr Wy Aur… ac i chi dditectifs gwerth eich halen, allwch chi ddod o hyd i’r wy aur bach iawn iawn sy’n cuddio yn yr amgueddfa? 

Gwobr siocled (gwobr heb gynnyrch laeth ar gael).

Archebwch ymlaen llaw.