Noson o ddathlu, cefnogi a chysylltu cymunedau LHDTQ+ Caerdydd. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi sylw i thema Mis Hanes LHDTQ+, sef ‘Tu ôl i’r lens’. Ymunwch â ni am noson o weithdai, straeon, perfformiadau, podlediadau byw, sgyrsiau a ffilmiau.
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi perfformiadau dawns gan The Welsh Ballroom a Qwerin. I ddilyn bydd Queeroke gyda’r seren TikTok Ellis Jones, ynghyd â’r ddeuawd o Gaerdydd, Welsh Chicks DJs!
Bydd y brif neuadd yn llawn stondinau gan grefftwyr lleol yn gwerthu eu celf ac yn cynnig gweithdai a gwybodaeth.
Bydd y caffi a’r bar ar agor hefyd, yn gwerthu bwyd a diod nes 11pm.