Lansiad “Y Traeth o dan y Stryd”

19:30, 27 Mawrth 2023

Am ddim

Mae Cyhoeddiadau Barddas yn lansio cyfrol newydd y Prifardd Hywel Griffiths – Y Traeth o Dan y Stryd

Yn y gyfrol, mae Hywel yn gofyn ble, a sut, y gall bardd ar drothwy deugain oed ganfod y traeth heddiw, yng nghanol prysurdeb cyfrifoldebau bywyd a stormydd gwleidyddol, a phan fo newid hinsawdd yn bygwth traethau a strydoedd yng Nghymru a thu hwnt? Mae’n chwilio yn y dirwedd, yn yr amgylchedd, yn y cof ac yng nghariad teulu a ffrindiau, ac yn dod o hyd iddo, weithiau. Byddwn yn dathlu gyda Hywel a’i gyfaill Eurig Salisbury yn y Bank Vault yn Aberystwyth ar nos Lun, Mawrth 27 ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich cwmni.

Mae’r lansiad yn rhad ac am ddim. Diolch i Gyngor Llyfrau Cymru am y gefnogaeth ariannol.