Yn herio’n gorfforol ac yn adrodd stori sy’n cyffwrdd â’r galon, Knot yw’r sioe syrcas a dawns uchel ei chlod gan Nikki Rummer a JD Broussé. Mae’r perfformwyr yn defnyddio sgiliau syrcas arbennig i ddweud stori am ddewis amhosib: Sut allwn ni fod yn onest gyda ein hunain heb frifo y rhai yr ydym yn eu caru? Mae Knot yn daith theatrig, celfydd sy’n dangos brwydrau ymrwymo.