Noson gyda Ifor ap Glyn a Clare Potter

19:00, 8 Mehefin 2023

Rhwng Mehefin 8 a Gorffennaf 6, bydd y bardd a’r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn cerdded o Gaerdydd i Gaernarfon ar ei daith ‘Sha Thre / Am Adra’ gan wneud gig bob nos yng nghwmni beirdd neu gerddorion lleol, ac er budd achosion lleol.

Bydd mynediad i’r noson am ddim, ond gwneir casgliad ar y diwedd ar gyfer Ysgol Ty Coch.