Pwy oedd Idwal Jones? (Darlith Marie James – rhan 1)

19:30, 15 Mawrth 2023

Mae ymwelwyr cyson â lolfa Theatr Felin-fach yn gyfarwydd â phortread Eryl Ellis o’r dramodydd Idwal Jones – yn rhy gyfarwydd, efallai.

Wrth i’r Ŵyl Ddrama atgyfodi Darlith Goffa Flynyddol Marie James mi fydd Euros Lewis yn cwestiynu a yw Idwal Jones – gŵr a fu farw dros 80 mlynedd yn ôl – ag unrhyw hawl i sefyll yng nghanol bwrlwm creadigol 2023?