Pedair ac Eve Goodman

19:00, 9 Mehefin 2023

£12

Mae Pedair yn dwyn ynghŷd dalentau pedair o artistiaid gwerin arobryn amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James. Gyda’i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitârs, piano ac acordion. Gan gyfuno eu doniau unigryw fel chwedl-ganwyr, maent yn tynnu eu deunydd o’r traddodiad barddol a llafar, yn ogystal â gwerin.

Bydd y band yn chwarae ynghyd a’r gantores leol Eve Goodman yn Capel Jerusalem, Bethesda.