
Pedair
📆23-6-2023
⏰7:30 yh | pm
🎟theatrfelinfach.ticketsolve.com
Mae Pedair yn dwyn ynghyd dalentau pedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James. A’r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio’n fyw. Gyda’i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitârs a phiano.
Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda’u harmonïau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o’r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi. Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol (yn cynnwys Pedair eu hunain!)
Mi fydd y frenhines canu gwlad Doreen Lewis yn perfformio ynghyd a Pedair.
Tocynnau ar gael nawr ar-lein neu trwy’r Swyddfa Docynnau👇
Oriau Swyddfa Docynnau | Box Office Hours
Llun i Gwener | Monday to Friday
9:30yb-16:30yp
☎01570 470697
📧theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk