Sgwrs – Cynrhon cariadus!

13:15, 19 Mawrth 2023

Am Ddim

Cynrhon cariadus – Y gwyddoniaeth y tu ôl i’r rhyfeddodau meddygol hyn!Mae cynrhon yn ffordd wych ac effeithiol o drin clwyfau sy’n crynhoi! 

Mae ein grŵp ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi gwneud darganfyddiadau gwyddonol sy’n esbonio sut mae cynrhon yn gweithredu i helpu clwyfau i wella. 

Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth y cyhoedd a chanfyddiad o therapi cynrhon yn wael iawn ac yn negyddol iawn ar y cyfan. 

Trwy rannu ein gwaith ein nod yw newid y canfyddiad ‘yucky’ o’r creaduriaid rhyfeddol hyn!