Sialens y Barcud Coch

10:00, 29 Ebrill 2023

£8-£22

Dechrau-Ras-Barcud-2022-eto

(Llun: Sialens y Barcud Coch / Gareth Roberts)

1/2 Marathon Ras y Barcud ydy prif ras trêl Canolbarth Cymru, ac unwaith eto eleni bydd yn cynnwys Pencampwriaethau Trêl Cymru a Phencampwriaethau Trêl Gorllewin Cymru.

Mae’r rasys ieuenctid, sy’n amrywiol mewn pellteroedd o 3k i 10k, hefyd yn cynnwys Pencampwriaethau Cymru a Gorllewin Cymru, felly mae disgwyl i redwyr trêl gorau Cymru o bob oedran dyrru i Bontarfynach.

Mae manylion llawn trefniadau’r diwrnod, ac amserlen y rasio ar gael nawr.

Bydd Ras y Barcud eleni unwaith eto’n codi arian at achos da lleol, sef Ward Ystwyth (Uned Strôc) Ysbyty Bronglais yn Aberyswyth.

Os hoffech godi arian atWard Ystwyth Ysbyty Bronglais trwy redeg Ras y Barcud trwy godi nawdd (lleiafswm £50) yna gallwn roi mynediad am ddim i’r ras i chi.  Cysylltwch trwy rasybarcud@gmail.com am y ffurflenni nawdd priodol, a byddwn yn ad-dalu eich pris mynediad wrth dderbyn eich arian nawdd ar ddiwrnod y ras.