Pa le sydd i fwyd mewn diwylliant a llên Gymraeg?

14:00, 11 Chwefror 2023

Mae bwydydd Cymru yn faes eang a anwybyddwyd gennym i raddau helaeth. A yw hyn yn deillio o fan dwfn yn ein llên? Oes modd son yn ystyrlon am ‘ddiwylliant bwyd’ Cymraeg? A beth fyddai peth felly yn ei gynnwys?

Mae Carwyn Graves yn awdur, garddwr, tad a Christion o Gaerdydd sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin. Mae ei ddau lyfr cyntaf yn ymwneud gyda hanes yr afal, a hanes bwydydd yng Nghymru gyda golwg fanwl ar y wedd ddiwylliannol. Mae’n gweithio bellach ar lyfr ar y dirwedd Gymraeg.

Digwyddiad ar y cyd gyda Chyfeillion y Llyfrgell.

Mae’r digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd.