Mae Côr Meibion Dyfnant, yn dal i fod yn gôr bywiog ac uchelgeisiol ac adlewyrchir hyn drwy raglen gyffrous y côr am y tymor 2023/24, a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Mae’r côr ar fin lansio “Taith Cymru”, yr un gyntaf erioed i’r côr. Cynhelir cyngerdd cyntaf y daith yng Nghadeirlan Aberhonddu ar 25 Tachwedd 2023.
Dyma’r rhestr lawn o gyngherddau/ymgysylltiadau:
25 Tachwedd, 2023 yng Nghadeirlan Aberhonddu gyda Chôr Meibion Aberhonddu a’r cylch
16 Chwefror 2024 yng Nghadeirlan Llanelwy gyda Rhys Meirion
17 Chwefror 2024 yng Nghadeirlan Bangor gyda Rhys Meirion
16 Mawrth 2024 yng Nghadeirlan St Woolos, Casnewydd gydag Only Boys Aloud
13 Ebrill, 2024 yng Nghadeirlan Tyddewi gyda Chôr Meibion Hwlffordd
Ar y 4ydd o Orffennaf, bydd Côr Meibion Dyfnant yn perfformio mewn “Cymanfa Ganu” yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd.
Bydd Taith Cymru yn gorffen gyda “Chyngerdd Terfynol” syfrdanol yn Abertawe. Bydd yr artistiaid, ar wahân i “Only Boys Aloud”, a fu’n rhannu’r llwyfan gyda Chôr Meibion Dyfnant ar y daith, yn perfformio yn y cyngerdd dathlu cyffrous hwn, yn Neuadd Brangwyn.