Taith Meddwlgarwch

08:30, 28 Mai 2023

Ymunwch efo ni am daith meddylgar o amgylch Cwm Idwal gyda arweinydd meddwlgarwch lleol a Swyddog Parneriaeth Cwm Idwal. Fe fyddwn yn cerdded o amgylch Llyn Idwal gan stopio o bryd i’w gilydd i wneud ymarferion meddwlgarwch tra’n mwynhau’r natur o’n cwmpas. Mae’r taith yn dechrau am 8:30am o flaen Canolfan Cwm Idwal. Gall parcio fod yn anodd ar gyfer Cwm Idwal ond mae posib dal y Bws Ogwen neu’r T10 o Fethesda hefyd.

*Nodwch fod y daith yma yn cychwyn am 8:30am*

Rhaid archebu lle. Cysylltwch a Rhys Wheldon-Roberts:

ebost: rhys.wheldonroberts@nationaltrust.org.uk neu galwch 07977 596517