Teyrnged i’r cyfansoddwr David Harries

13:00, 24 Mawrth 2023

£5.00

Ar y diwrnod y byddai wedi troi’n 90 oed, ymunwch â ni wrth i ni dalu teyrnged i’r cyfansoddwr adnabyddus David Harries (1933-2002).

Bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiadau o waith Harries gan fyfyrwyr a staff Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle bu’n Gyfansoddwr Preswyl ac yn Bennaeth Cyfansoddi nes iddo ymddeol yn 1993.

Mae’n cael ei adnabod yn bennaf fel cyfansoddwr ac mae ei brif weithiau yn cynnwys opera, symffoni a choncertos ar gyfer y piano, ffidil a chlarinét. Mae ei lawysgrifau cerdd, sy’n cynnwys drafftiau a sgorau o drefniannau cerddorol yn bennaf, ym meddiant y Llyfrgell.

Mewn cydweithrediad â Thŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Digwyddiad dwyieithog.