Tyrd am dro yn dy fro – Llanberis

11:00, 25 Ionawr 2023

Taith gerdded arall yn ein cyfres ‘Tyrd am dro yn dy fro’.

Hanner awr o gerdded hamddenol, gwastad, ar hyd Llyn Padarn, yna seibiant a phanad yng nghaffi’r amgueddfa, a cherdded yn ôl.

Os hoffech chi fwcio pas yn y cerbyd cymunedol, cysylltwch efo judith@ogwen.org erbyn diwedd dydd 24 Ionawr. Neu fel arall, cyfarfod o flaen ‘Snowdonia Watersports’ am 11:00.