Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs

13:00, 22 Chwefror 2023

‘Bywyd a marwolaethau Edmund Bernard Reece’ – Crwner Caerdydd & O Gymru Wyllt i Wlad y Basg

Ymunwch â ni yn y drydedd mewn cyfres o gyflwyniadau Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs, pan bydd Robin Chapman yn trafod ‘Bywyd a marwolaethau Edmund Bernard Reece’ – Crwner Caerdydd’ gan ddefnyddio gwefan Papurau Newydd Cymru y Llyfrgell, a bydd Mererid Hopwood yn crwydro O Gymru Wyllt i Wlad y Basg gyda Gweithiau Cyflawn Miguel de Unamuno.

Yn ystod y gyfres hon, sy’n elfen o waith Rhwydwaith y Llawysgrif a’r Llyfr, bydd aelodau o staff Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth, yn sgwrsio am arwyddocâd un gwrthrych yr un o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Gan ddefnyddio mapiau, lluniau, llawysgrifau, toriadau papur newydd ac ewyllysiau hyd yn oed, bydd y sesiynau yn trafod amrywiaeth o destunau difyr sy’n ein cludo ar daith o’r cyn-oesoedd i heddiw, ac o Gymru i’r byd.

**Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd**