Mae Elis James nôl gyda’i sioe stand-yp Cymraeg newydd sbon!
Bydd seren “Cic Lan Yr Archif”, “The Elis James and John Robins show” ar Radio 5 Live, a “Fantasy Football League” ar Sky yn sôn am ei brofiadau fel Cymro yn Llundain (AKA “dramor”), tyfu i fyny yn Sir Gaerfyrddin, a’i ymdrechion i dynnu ei hun allan o ble mae e fwyaf cyfforddus.