Bydd Cymdeithas Tseiniaidd yng Nghymru (CTYN) yn cynnal digwyddiad i blant ysgol a’r cyhoedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o amgylch Gŵyl Canol Hydref Tsieineaidd neu Ŵyl y Lleuad.
Bydd sawl gweithdy a phrofiadau i ymwelwyr fwynhau yn ystod y dydd. Ymunwch â ni i ddathlu diwylliant Tsieineaidd yng Nghymru trwy weithgareddau fel gwneud pypedau dreigiau, saethau Tsieineaidd, caligraffeg Tsieineaidd, dawnsio’r ddraig, Tai Chi ac offerynnau cerdd Tsieineaidd.