Gall ychydig ddefnydd o’r Gymraeg gael effaith mawr ar eich busnes!
Fel ymateb i un o brif bryderon adborth gweithdai cymuedol eleni, sef diriwaid mewn defnydd o’r Gymraeg ar y strydoedd mawr, bydd Menter Iaith Gwynedd yn cynnal tair noson ‘Hapus i Siarad’ er mwyn ceisio ysgogi mwy o ddefnydd o’r Gymraeg mewn busnesau lleol.
Dewch i ymuno â ni am noson o rwydweithio a thrafod sut y gall cynyddu defnydd o’r Gymraeg gael effaith gadarnhaol ar fusnesau, yma yng Ngwynedd.
Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys perchnogion busnes sydd wedi profi manteision o ddysgu’r iaith, staff o Brifysgol Bangor, MSparc, a dysgwyr Cymraeg o’r ardal yn rhannu eu profiadau.
Nod y digwyddiadau hyn yw hybu defnydd o’r Gymraeg ar y stryd fawr, cefnogi busnesau lleol i gyflawni hyn, ac hybu’r economi leol.
7fed o Hydref – Bethesda – Clwb Rygbi – 18:00-19:30
8fed o Hydref – Y Bala – Canolfan Bro Tegid – 18:00-19:30
9fed o Hydref – Pwllheli – Y Llyfrgell – 18:00-19:30
Archebwch eich lle drwy ddilyn y ddolen isod.
https://forms.office.com/e/v7n6jJaVpL
Croeso cynnes i bawb!
Am fwy o wybodaeth : osian@menteriaithgwynedd.cymru